Myfanwy talog biography of william
Jennifer hill.
Adolygiad
Adolygiad Catrin Jones o Cofio Myf. Theatr y Maes.
Myfanwy talog biography of william
Dydd Mawrth, 7 Awst 2007
Ganwyd Myfanwy Talog yng Ngaerwys, Sir y Fflint yn 1945 ac felly roedd hi'n ddyletswydd ar yr Eisteddfod i dalu teyrnged iddi eleni gan ein bod ym mro ei mebyd.
A gwnaethpwyd hynny yng nghwmni rhai o'i chyfeillion yn Theatr y Maes brynhawn heddiw.
Ar lwyfan moel eisteddai Gaynor Morgan Rees, Christine Pritchard, Olwen Rees, Gwen Ellis a John Ogwen gyda Richard Morris Jones yn cadeirio.
Roedd Richard Morris Jones neu Moi i'w ffrindiau yn adnabod Myf ers eu dyddiau yng Ngholeg y Barri ar gyfer bod yn athrawon ac yn wir parhaodd Myf i fod yn athrawes nes ei bod yn actores broffesiynol.
Heb gael cyfle
Gwnaeth ei bywoliaeth ar y dechrau yn bennaf ar deledu Cymraeg ac mae hi'n enwog am ei phortread o Phyllis Doris ar y gyfres Ryan a Ronnie.
Ond er cystal oedd hi fel actores gomedi teimlai ei chyfeillion nad oedd wir wedi cael y cyfle i ddangos ei photensial fel actores mewn rhannau difri